Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2011
Dyddiad Cyhoeddi: 09/10/2012
Rydym yn falch o gyflwyno'r adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer ar gyfer Cymru.
Eleni, buom yn edrych yn fanwl ar fonitro metelau ar ffurf ronynnol, yn enwedig mewn ambell leoliad lle’r oedd hynny’n broblem ledled Cymru. Fel arfer rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisi.
Rydym hefyd yn darparu crynodeb o ddosbarthiad gofodol diweddaraf llygryrddion aer ledled Cymru ac yn adolygu "Cymru Fyw – Fframwaith Amgylchedd Naturiol".
» Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol 2011 - Cymraeg (pdf)
Adroddiad Gwyddoniaeth ac Arloesedd – Mesuriadau Gronynnol gan System Mesur Dynameg Hidlyddion
Dyddiad Cyhoeddi: 26/07/2012, by Rachel Yardley & Brian Stacey
» Adroddiad (pdf)
Astudiaeth o Ansawdd Aer yr Amgylchedd ym Mhort Talbot o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2011
Dyddiad Cyhoeddi: 24/05/2012
» Adroddiad ()
Adroddiad Gwyddoniaeth ac Arloesedd ar Dueddiadau NO2 a NOx yng Nghymru
Dyddiad Cyhoeddi: 31/01/2012, by Rachel Yardley
Produced by AEA on behalf of the Welsh Air Quality Forum
» Adroddiad (pdf)
Cymharu’r mapiau ansawdd aer a fodelwyd yn genedlaethol gyda data monitro ansawdd aer Cymru, 2010
Dyddiad Cyhoeddi: 09/12/2011, by Agnieszka Griffin
Produced by AEA on behalf of Welsh Air Quality Forum
» Report (pdf)
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol newydd ar gyfer 2010
Dyddiad Cyhoeddi: 22/09/2011, by AEA
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyhoeddi´r adroddiad ansawdd aer blynyddoedd diweddaraf ar gyfer Cymru.
Eleni, rydym yn edrych yn fanylach ar achosion ac effeithiau Llygredd Aer Trawsffiniol Pellgyrhaeddol a´r Hysbysiad Ymestyn Amser i gydymffurfio â gwerthoedd terfyn yr UE a bennir yng Nghyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd yr UE (2008/50/CE) ar gyfer nitrogen deuocsid.
Rydym hefyd yn darparu crynodeb o dueddiadau hirdymor a dosbarthiad gofodol llygryddion aer yng Nghymru ac adolygir Dangosyddion Cyflwr yr Amgylchedd.
» Lawrlwythwch Adroddiad Blynyddol 2010 - Cymraeg (pdf)
Adroddiad ar Lefelau Uwchlaw’r Trothwy o PM10 Margam 2010
Dyddiad Cyhoeddi: 13/06/2011, by Stewart Eaton
» Adroddiad (pdf)
Cymharu’r mapiau ansawdd aer a fodelwyd yn genedlaethol gyda data monitro ansawdd aer Cymru, 2009
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011, by Agnieszka Griffin
Produced by AEA on behalf of Welsh Air Quality Forum
» Report (pdf)
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol newydd ar gyfer 2009
Dyddiad Cyhoeddi: 24/09/2010, by AEA
Rydym yn falch o gyhoeddi bod yr adroddiad ansawdd aer blynyddol diweddaraf ar gyfer Cymru wedi'i gyhoeddi. Eleni, mae ein prif erthygl yn ystyried y cysylltiadau rhwng ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd, ac mae'n cynnwys cyngor ymarferol ar sut gall unigolion leihau eu hôl troed carbon.
Rydym hefyd yn darparu crynodeb o ddigwyddiadau llygredd aer diweddar o ddiddordeb, gan gynnwys cipolwg ar y gweithgareddau pan ffrwydrodd llosgfynydd Eyjafjallajokull yng Ngwlad yr Ia ym mis Ebrill a Mai 2010.
» Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol 2009 - Saesneg (pdf)
Cymharu’r mapiau ansawdd aer a fodelwyd yn genedlaethol gyda data monitro ansawdd aer Cymru, 2008
Dyddiad Cyhoeddi: 01/11/2009, by Agnieszka Griffin & Ioannis Tsagatakis
Lluniwyd gan AEA ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru
» Report (pdf)
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Newydd 2008 ar 1 Hydref
Dyddiad Cyhoeddi: 29/09/2009, by AEA
Rydym yn falch o ddweud bod yr adroddiad ansawdd aer blynyddol diweddaraf ar gyfer Cymru wedi’i gyhoeddi, ac mae ar gael i’w lawrlwytho nawr. Eleni rydym yn edrych ar nifer o ddigwyddiadau llygru aer diddorol yn ystod 2008, o ganlyniad i lwch yn cael ei gludo o bell a thraffig y ffordd. Rydym hefyd yn cynnal ymchwiliadau cynhwysfawr i’r tueddiadau diweddaraf a dosbarthiad gofodol llygryddion yng Nghymru.
Eleni, am y tro cyntaf, rydym yn adolygu gweithgareddau amrywiol Fforwm Ansawdd Aer Cymru; rydym hefyd wedi casglu astudiaethau achos a phrofiad ymarferol aelodau’r Fforwm sy’n gweithredu’r dadansoddwyr gronynnau FDMS diweddaraf.
Mae amrywiaeth gynhwysfawr o ddadansoddiadau, ystadegau, crynodebau data a graffiau ansawdd aer wedi’u cynnwys ar CD, a ddarperir gyda chopïau caled o’r adroddiad.
» Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol 2008 - Saesneg (pdf)
Cymharu’r mapiau ansawdd aer cenedlaethol enghreifftiol gyda data monitro ansawdd aer Cymru, 2007
Dyddiad Cyhoeddi: 01/11/2008, by Ioannis Tsagatakis & Andrew Kent
Produced by AEA on behalf of Welsh Assembly Government
» Adroddiad (pdf)
Adroddiad Blynyddol Newydd ar gyfer 2007
Dyddiad Cyhoeddi: 02/10/2008
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod adroddiad ansawdd aer blynyddol diweddaraf Cymru wedi’i ryddhau ac ar gael i’w lawrlwytho ar unwaith. Eleni rydym yn edrych ar rai digwyddiadau llygredd aer diddorol yn ystod 2007 o ganlyniad i a) Llwch a mwg yn cael eu cludo o bell a b) Noson Tân Gwyllt. Yn ogystal ag edrych ar y tueddiadau diweddaraf a dosbarthiad gofodol llygryddion yng Nghymru rydym hefyd yn bwrw golwg fanylach ar faterion sy’n effeithio ar ansawdd yr aer o gwmpas Port Talbot. I’r darllenydd mwy technegol neu sydd am wybod mwy, mae amrywiaeth gynhwysfawr o ystadegau, crynodebau data, graffiau a dadansoddiadau ansawdd aer manwl wedi’u cynnwys ar CD, a ddarperir gyda chopïau caled o’r adroddiad.
Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn ar y cyd â Fforwm Ansawdd Aer Cymru ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad a phobl Cymru. Ynghyd â gwefan ansawdd aer Cymru, sef www.welshairquality.co.uk, mae’n darparu’r ffynhonnell ddata fwyaf dibynadwy, cyflawn ac awdurdodol ar faterion llygredd aer yng Nghymru.
» Gallwch ei lawrlwytho yma - English (pdf)
Cymharu’r mapiau ansawdd aer cenedlaethol enghreifftiol gyda data monitro ansawdd aer Cymru, 2006
Dyddiad Cyhoeddi: 01/11/2007, by Ioannis Tsagatakis & Andrew Kent
Produced by AEA on behalf of Welsh Assembly Government
» Adroddiad (pdf)
Adroddiad Blynyddol Newydd ar gyfer 2006
Dyddiad Cyhoeddi: 08/10/2007
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr adroddiad ansawdd aer blynyddol diweddaraf ar gyfer Cymru wedi’i ryddhau, ac ar gael i’w lawrlwytho ar unwaith. Mae’r darparu gwybodaeth hawdd i’w deall am lefelau, tueddiadau ac effeithiau llygredd aer ym mhob cwr o Gymru yn ystod 2006. I’r darllenydd mwy technegol neu sydd am wybod mwy, mae amrywiaeth gynhwysfawr o ystadegau, crynodebau data, graffiau a dadansoddiadau ansawdd aer manwl wedi’u cynnwys ar CD, a ddarperir gyda chopïau caled o’r adroddiad.
Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn ar y cyd â Fforwm Ansawdd Aer Cymru ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad a phobl Cymru. Ynghyd â gwefan ansawdd aer Cymru, sef www.welshairquality.co.uk, mae’n darparu’r ffynhonnell ddata fwyaf dibynadwy, cyflawn ac awdurdodol ar faterion llygu aer yng Nghymru.
» Gallwch ei lawrlwytho yma - English (pdf)
Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990 - 2005
Dyddiad Cyhoeddi: 31/08/2007, by Joanna Jackson, Yvonne Li, Neil Passant, Glen Thistlethwaite, Amanda Thomson & Laura Cardenas
» Adroddiad (pdf)
» Atodiad 1 (pdf)
» Atodiad 2.1 (pdf)
» Atodiad 2.2 (pdf)
» Atodiad 2.3 (pdf)
» Atodiad 2.4 (pdf)
» Atodiad 2.5 (pdf)
» Tabl Pifod (xls)
Lilgredd Aer yng Nghymru 2005
Dyddiad Cyhoeddi: 24/01/2007, by Netcen
Dyma’r degfed adroddiad blynyddol ar ansawdd aer yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar
ddarparu gwybodaeth hawdd ei deall am lefelau ac effeithiau llygredd aer ledled Cymru yn
ystod 2005.
» Y brif ddogfen (pdf)
Cymhariaeth rhwng y mapiau ansawdd aer cenedlaethol a data monitro ansawdd aer Cymru
Dyddiad Cyhoeddi: 01/09/2006, by James Sturman
Paratowyd gan AEA ar ran Fforwm Ansawdd Aer Cymru
» Adroddiad (pdf)
Lilgredd Aer yng Nghymru 2004
Dyddiad Cyhoeddi: 01/12/2005, by AEA Technology -Netcen
Dyma nawfed adroddiad blynyddol Fforwm Ansawdd Aer Cymru i Gymdeithas Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd (Cymru) a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth hawdd ei defnyddio am ansawdd aer ledled Cymru yn ystod 2004.
» Y brif ddogfen (pdf)
Cymhariaeth rhwng y mapiau ansawdd aer cenedlaethol a data monitro ansawdd aer Cymru
Dyddiad Cyhoeddi: 01/10/2005, by AJK
Paratowyd gan AEA ar ran Fforwm Ansawdd Aer Cymru
» Adroddiad (pdf)
Adroddiad WAQ 2003
Dyddiad Cyhoeddi: 01/05/2005
Cymharu mapiau modelu ansawdd aer cenedlaethol â data monitro ansawdd aer Cymru
Dyddiad Cyhoeddi: 01/01/2005, by Andrew Kent and John Stedman, Netcen
Adroddiad WAQ 2002
Dyddiad Cyhoeddi: 01/05/2003
Adroddiad WAQ 2001
Dyddiad Cyhoeddi: 01/05/2002
Adroddiad WAQ 2000
Dyddiad Cyhoeddi: 01/05/2001
Mae angen rhaglen Adobe Acrobat Reader i weld ffeiliau PDF. Mae'r rhaglen hon eisoes yn rhan o fersiynau diweddaraf Internet Explorer a Netscape Navigator, felly ni fydd angen i chi ei gosod. Os nad oes gennych chi Acrobat Reader, cliciwch y ddolen gyswllt isod.